pellach na'r lle y gwyliwn o ben y bryn. Gwyddwn na allai'r cwch ddim nofio am o leiaf ddeng awr, ac erbyn hynny byddai'n dywyll, a chawn fwy o ryddid i sylwi ar eu symudiadau a chlywed eu hymddiddanion. Yn y cyfamser, ymbaratoais am frwydr. Gorchmynnais i Friday hefyd gymryd baich o arfau. Cymerais i ddau ddryll, a rhoddais dri mwsged iddo yntau. Yn wir, yr oedd golwg ffyrnig anghyffredin arnaf fi. Yr oedd y gôt ddychrynllyd honno o groen gafr gennyf amdanaf, a'r cap mawr bondigrybwyll, cleddau noeth wrth fy ochr, dau bistol yn fy ngwregys, a gwn ar bob ysgwydd.
Fy nghynllun i, fel y dywedais uchod, oedd peidio â gwneud ymgais yn y byd nes iddi dywyllu. Ond tua dau o'r gloch, sef ym mhoethder y dydd, gwelwn eu bod i gyd wedi crwydro i'r coed, ac, fel y tybiwn i, wedi gorwedd i lawr i gysgu. Yr oedd y tri arall druain wedi eistedd dan gysgod coeden fawr tua chwarter milltir oddi wrthyf, ac, fel y tybiwn i, allan o olwg y gweddill. Ar hyn, penderfynais fy nangos fy hun iddynt, a chael gwybod rhywfaint o'u helynt. Ac ymlaen â mi ar unwaith, a Friday gryn bellter tu ôl i mi, yntau mor ofnadwy o arfog â minnau; ond nid edrychai lawn mor llygadrwth a bwganllyd â mi.
Deuthum mor agos atynt ag y medrwn yn ddiarwybod iddynt; ac yna, cyn i'r un ohonynt fy ngweld, gelwais arnynt yn uchel mewn Ysbaeneg: "Beth ydych chi, foneddigion?"
Neidiasant i fyny wrth y sŵn; ond yr oeddynt wedi drysu ddengwaith mwy pan welsant fi, a'r