Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Anturiaethau Robinson Crusoe.djvu/238

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

herbyn; anodd oedd cael ganddynt beidio â'm lladd; o'r diwedd rhoesant fi ar y lan yn y lle diffaith hwn, a'r ddau ddyn hyn gyda mi, un yn fêt i mi, a'r llall yn deithiwr."

"Ble mae'r cynafon hynny, eich gelynion?" meddwn i. "A wyddoch chi ble maen nhw wedi mynd?"

"Dyna lle maen nhw, syr," meddai, gan ddangos llwyn o goed.

"Mae fy nghalon yn curo gan ofn eu bod wedi ein gweld, a'ch clywed chi'n siarad. Os ydynt, mae nhw'n siwr o'n lladd ni i gyd."

"A oes gynnau ganddyn nhw?" meddwn. Dywedodd nad oedd ganddynt ddim ond dau ddryll, a bod un wedi ei adael yn y cwch.

"Wel ynteu," meddwn i, "gadewch y gweddill i mi; gwelaf eu bod yn cysgu i gyd; peth hawdd yw lladd y cwbl; ond a gawn ni yn hytrach eu cymryd yn garcharorion?"

Dywedodd wrthyf fod yno ddau ddyhiryn gorffwyll yn eu mysg a phrin yr oedd yn ddiogel dangos dim trugaredd tuag atynt; ond os delid hwy, credai y dychwelai'r lleill i gyd at eu gwaith.

"Wel," meddwn i, "gadewch i ni fynd o'u golwg ac o'u clyw, rhag ofn iddynt ddeffro, a chawn benderfynu ymhellach."

Ac aethant yn ôl gyda mi yn ewyllysgar, nes i'r coed ein cuddio rhagddynt.

Edrychwch yma, syr," meddwn i, "os mentraf fi eich gwaredu, a ydych yn fodlon gwneud dwy amod â mi?"

Achubodd y blaen ar fy nghynigion, trwy ddweud y byddai ef a'r llong, os ceid hi'n ôl,