Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Anturiaethau Robinson Crusoe.djvu/239

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn gyfan gwbl o dan fy awdurdod a'm cyfarwyddydi; ac os na cheid y llong yn ôl, fe fyddai ef fyw a marw gyda mi i ba ran bynnag o'r byd y gyrrwn i ef; a dywedodd y ddau ddyn arall yr un peth.

"Wel," meddwn i, "dim ond dwy amod sydd gennyf:

1. Tra byddwch chwi'n aros ar yr ynys hon gyda mi, na bydd i chwi honni hawl i ddim awdurdod yma; ac os rhoddaf arfau yn eich dwylo y bydd i chwi ar bob achlysur eu rhoddi i fyny i mi, a pheidio â chreu rhagfarn yn fy erbyn i na'm heiddo ar yr ynys hon; a chymryd eich llywodraethu yn ôl fy ngorchmynion i.

2. Os enillir y llong yn ôl, y bydd i chwi fy nghludo i a'm cydymaith i Loegr, am ddim."

Rhoddodd i mi bob sicrwydd ag y gallai dyfais dyn ei roddi y buasai'n cydsynio â'r gofynion hollol resymol hyn; ac y buasai'n cydnabod ei fod yn fy nyled i am ei fywyd tra byddai byw.

"Wel, ynte," meddwn i, "dyma dri mwsged i chi, a phowdwr a phelennau; dywedwch wrthyf beth a feddyliwch chi a ddylid ei wneud."

Dywedodd wrthyf yn wylaidd iawn, fod yn anodd iawn ganddo eu lladd, os gallai beidio; ond fod y ddau hynny yn gynafon di-droi-yn-ôl, ac wedi bod yn achos yr holl wrthryfel ar y llong, ac os dihangent, fe'n difethid wedyn; canys fe aent i'r llong a dod â'r holl griw, a'n dinistrio i gyd.