Yng nghanol yr ymddiddan hwn, clywem rai ohonynt yn deffro, ac yn fuan wedyn gwelem ddau ohonynt ar eu traed. Gofynnais iddo ai un o'r rhain oedd arweinydd y gwrthryfel.
"Nage," meddai.
"Wel, ynte," meddwn innau, " gellwch adael iddynt ddianc; y mae Rhagluniaeth fel pe wedi eu deffro er mwyn iddynt eu hachub eu hunain. Yn awr, os dihanga'r lleill oddiarnoch, eich bai chwi ydyw."
Cymerodd yntau'r mwsged a roddaswn i iddo yn ei law, a phistol yn ei wregys, a'i ddau gydymaith gydag ef, a dryll gan bob un yn ei law. Wrth fynd ar y blaen gwnaeth y ddau ddyn ryw sŵn, a thrôdd un o'r morwyr oedd wedi deffro, a chan iddo eu gweld yn dyfod gwaeddodd ar y lleill; ond yr oedd yn rhy hwyr, canys y foment y gwaeddodd, taniodd y ddau. Yr oeddynt wedi anelu'r ergyd gystal at y dynion a adwaenent hwy, fel y lladdwyd un ohonynt yn y fan, a chlwyfwyd y llall yn ddrwg iawn; ond neidiodd ar ei draed gan weiddi ar y lleill am help. Ond gan fynd ymlaen ato, dywedodd y capten wrtho ei bod rhy hwyr i weiddi am help; ac ar hynny trawodd ef â bôn ei fwsged, fel na ddywedodd ddim byd pellach. Yr oedd tri'n ychwaneg yn y cwmni, ac un wedi ei glwyfo'n ysgafn. Erbyn hyn yr oeddwn i wedi cyrraedd; a phan welsant eu perygl, ac mai ofer oedd gwrthwynebu, erfyniasant am drugaredd. Dywedodd y capten y buasai ef yn arbed eu bywydau ond iddynt roddi sicrwydd iddo eu bod yn ffieiddio'r brad yr oeddynt yn euog ohono, a thyngu bod yn ffydd-