tro cyntaf beth oedd ystyr llong yn suddo yn y môr. Rhaid i mi gydnabod mai prin y medrwn godi fy llygaid pan ddywedodd y morwyr wrthyf ei bod yn suddo. Yr oedd fy nghalon fel petai'n farw ynof, o ran â dychryn, o ran ag arswyd a'r meddyliau am y pethau oedd eto o'm blaen.
Tra'r oeddem yn y cyflwr hwn, a'r dynion eto'n gweithio wrth y rhwyfau i ddyfod â'r cwch at y lan (pan fedrem weld y lan wrth i'r cwch ddringo'r tonnau) gwelem lawer o bobl yn rhedeg ar hyd y traeth i'n cynorthwyo pan ddelem yn agos. Ond yn araf y cyrchem at y lan; ac ni lwyddasom i gyrraedd y lan, nes wedi i ni fynd heibio i oleudy Winterton, cilia gallt y môr tua'r gorllewin i gyfeiriad Cromer, ac felly torrai'r tir ychydig ar rym y gwynt. Yma aethom i mewn, a chyraeddasom y lan yn ddiogel, a cherddasom wedyn i Yarmouth, lle y derbyniwyd ni gyda chryn lawer o diriondeb gan ynadon y dref, yn ogystal â'r gwahanol fasnachwyr a pherchenogion llongau, a rhoddwyd digon o arian i ni i'n cludo un ai i Lundain neu yn ol i Hull, fel y gwelem ni yn orau.
Petasai gennyf ddigon o synnwyr yn awr i ddychwelyd i Hull, a phetaswn i wedi mynd adref, buaswn yn hapus; a buasai fy nhad (arwyddlun o ddameg ein Gwaredwr bendigedig) wedi lladd y llo pasgedig i mi, canys ar ôl clywed bod y llong yr euthum i ffwrdd ynddi wedi torri'n rhydd yn Yarmouth Roads, bu'n hir iawn cyn derbyn yr un sicrwydd nad oeddwn wedi boddi. Ond amdanaf fi, gan fod gennyf arian yn fy mhoced, teithiais i Lundain drwy'r tir, ac yno yn ogystal