Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Anturiaethau Robinson Crusoe.djvu/254

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn ardderchog, a phenderfynasom roi cynnig arno fore trannoeth. Ond er mwyn bod yn sicr o lwyddo, dywedais wrtho y byddai'n rhaid i ni rannu'r carcharorion, ac anfon Atkins a dau arall o'r rhai gwaethaf, yn rhwym i'r ogof. Ymddiriedwyd hyn i Friday a'r ddau ddyn a ddaethai i'r lan gyda'r capten. Gorchmynnais fynd â'r lleill i'm hafoty; a chan ei fod wedi ei gau i mewn, a hwythau wedi eu rhwymo, yr oedd y lle'n eithaf diogel.

Trannoeth gyrrais y capten at y rhain i siarad â hwynt, a dweud wrthyf a ellid ymddiried ynddynt ai peidio i fynd ar fwrdd y llong. Soniodd wrthynt am y niwed a wnaed iddo ef, ac er bod y llywydd wedi arbed eu bywydau, eto os anfonid hwy i Loegr fe'u crogid i gyd yn sicr; ond os ymunent mewn ymgais deg i ennill y llong yn ôl, y câi ef gan y llywydd addo pardwn iddynt. Syrthiasant ar eu gliniau gerbron y capten, ac addawsant fod yn ffyddlon iddo hyd y diferyn olaf, ac yr aent gydag ef dros y byd i gyd; y buasent yn ei gydnabod fel tad iddynt cyhyd ag y byddent fyw.

"Wel," ebe'r capten, "rhaid i mi fynd i ddweud wrth y llywydd beth a ddywedwch, a gweld beth a allaf ei wneud i gael ganddo gydsynio a'r peth."

Fodd bynnag, er mwyn i ni fod yn hollol sicr, dywedais wrtho am fynd yn ôl drachefn a dewis pump ohonynt, a dweud wrthynt y cymerai ef y pump hynny yn gynorthwywyr iddo, ac y cadwai'r llywydd y ddau arall, a'r tri a anfonwyd yn garcharorion i'm hogof i, yn wystlon am ffydd-