Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Anturiaethau Robinson Crusoe.djvu/27

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

os awn i am fordaith gydag ef na chostiai hi ddim i mi; cawn gydfwyta ag ef a bod yn gydymaith iddo; ac os medrwn i ddwyn rhywbeth gyda mi, cawn bob mantais oddiwrtho a ganiatâi'r fasnach ac efallai y cawn i dipyn o gefnogaeth.

Derbyniais y cynnig; a chan ddechrau cyfeillgarwch tyn â'r capten, euthum gydag ef am y fordaith, gan fynd â chyfran fechan gyda mi, canys yr oedd gennyf werth tua 40 mewn teganau a manion y dywedasai'r capten wrthyf am eu prynu. Yr oeddwn wedi casglu'r £40 hyn trwy gymorth rhai o'm perthnasau yr oeddwn wedi bod yn gohebu â hwynt, y rhai oedd wedi cael gan fy nhad, neu fy mam o leiaf, 'rwy'n credu, gyfrannu cymaint â hynny beth bynnag at fy antur gyntaf. Dyma'r unig fordaith y gallaf ddweud iddi fod yn llwyddiant yn fy holl anturiaethau, ac y mae arnaf ddyled am hynny i gywirdeb a gonestrwydd fy nghyfaill, y capten. Dano ef hefyd y cefais ddigonedd o wybodaeth am fesuroniaeth a rheolau morwriaeth; dysgais sut i gadw cyfrif o gwrs y llong, ac, mewn byr eiriau, i ddeall rhai pethau yr oedd yn rhaid i longwr eu deall. Canys gan ei fod ef yn cymryd diddordeb i'm hyfforddi, cymerwn innau ddiddordeb i ddysgu, ac, mewn gair, gwnaeth y fordaith hon fi yn llongwr yn ogystal â masnachwr; canys deuthum â phum pwys a naw owns o lwch aur gyda mi, oedd yn rhoddi bron £300 i mi yn Llundain, ac fe'm llanwodd hyn i â'r syniadau uchelgeisiol hynny sydd ar ôl hynny wedi fy llwyr ddifetha,