Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Anturiaethau Robinson Crusoe.djvu/29

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD III.
EI GAETHIWED YN SALLEE—DIANC GYDA XURY—CYRRAEDD BRAZIL.

YR oeddwn yn awr wedi fy sefydlu fy hun fel un o fasnachwyr Guinea; a chan i'm cyfaill farw yn fuan wedi iddo gyrraedd, penderfynais fynd ar yr un fordaith drachefn, ac fe hwyliais allan yn yr un llong gyda'r un oedd yn fêt iddo ar y fordaith gyntaf, a'r un oedd yn awr yn llywydd y llong. Dyma'r fordaith fwyaf annedwydd a wnaeth neb erioed, canys er nad euthum â llawn canpunt gyda mi o'r cyfoeth oeddwn newydd ei ennill, gan i mi adael £200 ar ôl gyda gweddw fy nghyfaill, eto syrthiais i brofedigaethau ofnadwy ar y fordaith hon; a dyma'r gyntaf, sef—wrth i'r llong hwylio'i chwrs tuag Ynysoedd Canary, neu yn hytrach rhwng yr ynysoedd hynny ac arfordir Affrica, daeth un o fôr—ladron Twrci o Sallee ar ei gwarthaf yng nglas y bore, gan ein hymlid ar lawn hwyliau. Cludasom ninnau hefyd gymaint o liain ag a ledai'r iardiau, neu a gariai ein mastiau, er mwyn mynd yn glir; ond wrth weld bod y môr-leidr yn ennill arnom, ac y byddai'n sicr o'n dal ymhen ychydig oriau, paratoesom ymladd,—deg o ynnau gan ein llong ni a deunaw gan yr herwlong. Tua thri yn y prynhawn fe'n daliodd ni; a chan iddi atal ei chwrs mewn amryfusedd, bron ar draws ein