caethweision o amgylch ei dŷ; a phan ddaeth adre'n ôl drachefn o'i fordaith, gorchmynnodd i mi orwedd yn y caban i edrych ar ôl y llong.
Yma ni feddyliais am ddim ond am ddianc, a pha ddull a gymerwn i gyflawni hynny, ond ni welwn ffordd o gwbl a fyddai'n debyg o lwyddo. Ac am ddwy flynedd, er i mi fod wrth fy modd yn aml yn dychmygu'r peth, eto ni chefais ddim calondid o gwbl i wneud hynny.
Ymhen tua dwy flynedd digwyddodd amgylchiad hynod, a ddaeth â'r hen syniad o geisio ennill fy rhyddid i'm pen drachefn. Arferai fy noddwr yn gyson, unwaith neu ddwy yr wythnos, weithiau yn amlach os byddai'r tywydd yn braf, fynd allan i bysgota i'r angorfa yng nghwch bach y llong. Ai â fi a Maresco ieuanc gydag ef bob amser i rwyfo'r cwch, a chan fy mod yn ddeheig iawn i ddal pysgod anfonai fi weithiau gyda Mŵr (un o'i geraint) a'r llanc y Maresco, fel y galwent ef, i ddal dysglaid o bysgod iddo.
Un tro, a ninnau yn mynd i bysgota ar fore hollol dawel, digwyddodd niwl godi mor dew nes i ni golli golwg ar y lan er nad oeddem hanner milltir oddiyno; a chan rwyfo heb wybod i ble na pha ffordd, llafuriasom drwy'r dydd a thrwy'r nos wedyn, a phan ddaeth y bore gwelsom ein bod wedi tynnu allan i'r môr yn lle tynnu at y lan, a'n bod o leiaf ddwy filltir o'r lan. Sut bynnag, daethom i mewn yn lled dda wedyn, er gyda chryn lawer o lafur, a pheth perygl, gan i'r gwynt ddechrau chwythu yn lled ffres yn y bore; ond yr oedd arnom newyn anghyffredin i gyd.