i mi, cyn gynted ag y byddai gennyf bysgod, ddyfod â hwynt adref i'w dŷ ef.
Y foment hon daeth fy syniadau blaenorol am waredigaeth i'm meddwl, gan y gwelwn yn awr fy mod yn debyg o gael llong fechan i mi fy hun; ac wedi i'm meistr fynd, ymbaratoais nid am y gorchwyl o bysgota ond am fordaith; er na wyddwn i ddim, ac na wneuthum hyd yn oed ystyried, i ble yr hwyliwn, gan fod rhywle, i gael mynd ymaith o'r lle hwnnw, yn ffordd i mi.
Fy ystryw cyntaf oedd cymryd arnaf sôn wrth y Mŵr am gael rhywbeth yn fwyd i ni ar y bwrdd; canys dywedais wrtho na fyddai wiw i ni fwyta bwyd ein noddwr. Dywedodd yntau fod hynny'n wir; felly daeth â basgedaid fawr o ryw fath o fara caled, a thair costrelaid o ddŵr croyw i'r cwch. Gwyddwn ymhle yr oedd cistan boteli fy noddwr, a chludais hwynt i'r cwch tra'r oedd y Mŵr ar y lan, fel petasent yno o'r blaen i'n meistr. Cludais hefyd delpyn mawr o gŵyr melyn i'r cwch, gyda pharselaid o linyn neu edau, bwyall, llif, a morthwyl; a bu'r cwbl o wasanaeth mawr i ni wedyn, yr enwedig y cŵyr i wneud canhwyllau. Cynigiais dric arall arno hefyd, a daeth iddo yn ddigon diniwed. Ei enw oedd Ismael, a alwant hwy yn Muli neu Moeli; gan hynny, gelwais arno: "Moeli," meddwn i, y mae gynnau ein meistr ar fwrdd y cwch; a fedri di gael tipyn o bowdwr a haels? Efallai y lladdwn ni ambell ylfinir i ni ein hunain, oherwydd mi wn ei fod yn cadw'r taclau saethu yn y llong."
Medraf," eb yntau, "fe ddof â pheth, daeth â phwrs lledr mawr oedd yn cynnwys tua