môr. Cododd ar unwaith, gan y nofiai fel corcyn, a gwaeddodd arnaf; erfyniodd am gael dyfod i mewn; dywedodd wrthyf yr âi ef gyda mi dros y byd i gyd. Nofiai mor gryf ar ôl y cwch fel y buasai wedi fy nal yn lled fuan, gan nad oedd ond ychydig o wynt; ar hynny euthum i'r caban, a chan estyn un o'r gynnau, trois ef ato, a dywedais wrtho nad oeddwn i wedi gwneud dim niwed iddo, ac os byddai'n ddistaw na wnawn i ddim byd iddo. Ond," meddwn i, "rwyt ti'n nofio'n ddigon da i gyrraedd y lan, ac mae'r môr yn dawel; gwna dy ffordd i'r lan orau y medri, ac ni wnaf fi ddim niwed i ti; ond os doi di'n agos i'r cwch mi saethaf di drwy dy ben, gan fy mod wedi penderfynu cael fy rhyddid." Felly trôdd yn ei ôl a nofiodd am y lan, ac nid wyf yn amau na chyrhaeddodd yn ddiogel gan ei fod yn nofiwr ardderchog.
Buaswn yn ddigon bodlon mynd â'r Mŵr hwn gyda mi, a boddi'r bachgen, ond ni ellid mentro ymddiried ynddo. Wedi iddo ef fynd, trois at y bachgen, a alwent hwy yn Xury, a dywedais wrtho: Xury, os byddi di'n ffyddlon i mi fe'th wnaf yn ddyn mawr, ond os na thynni di dy law dros dy wyneb i fod yn ffyddlon i mi (sef yw hynny, tyngu trwy Fahomet a barf ei dad), rhaid i mi dy daflu dithau i'r môr hefyd." Gwenodd y bachgen yn fy wyneb, a siaradodd mor ddiniwed fel na fedrwn mo'i ddrwg-dybio; thyngodd y byddai'n ffyddlon i mi, ac yr âi gyda mi dros y byd i gyd.
Tra'r oeddwn yng ngolwg y Mŵr, deliais allan yn syth i'r môr gyda'r cwch, gan dynnu braidd