Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Anturiaethau Robinson Crusoe.djvu/38

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i'r gwynt, er mwyn iddynt feddwl fy mod wedi mynd i gyfeiriad genau'r culfor (fel yn wir y gellid tybio y gwnâi unrhyw un yn ei synhwyrau); canys pwy fyth a fuasai'n tybio ein bod wedi hwylio i'r deau, i'r glannau gwir farbaraidd, lle byddai cenhedloedd cyfain o ddynion duon yn sicr o'n hamgylchynu â'u badau, a'n difetha ni; lle na fedrem lanio o gwbl heb gael ein difa gan fwystfilod rheibus, neu anwariaid mwy di-drugaredd fyth.

Ond cyn gynted ag y dechreuodd dywyllu ym min nos, newidiais fy nghwrs, a hwyliais i'r deddwyrain, gan gyfeirio fy nghwrs ychydig i'r dwyrain, er mwyn i mi gadw wrth y lan; a chydag awel o wynt teg, a môr esmwyth tawel, hwyliais cyn belled, nes erbyn tri o'r gloch prynhawn drannoeth, pan ddeuthum i olwg y tir, credaf nad oeddwn i ddim llai na chant a hanner o filltiroedd i ddeau Sallee; ymhell tu draw i diriogaethau Ymherawdr Morocco, neu yn wir unrhyw frenin arall yn y cyffiniau, gan na welsom bobl o gwbl.

Eto yr oedd arnaf gymaint o ofn y Mwriaid, a chawswn y fath fraw arswydus rhag syrthio i'w dwylo, na wnawn i ddim aros, na mynd i'r lan, na bwrw angor (a'r gwynt yn dal yn deg) nes i mi hwylio felly am bum niwrnod; ac yna, gan i'r gwynt droi i'r deau, bernais os oedd rhai o'u llongau yn fy ymlid, y rhoent hwythau'r gorau iddi hefyd yn awr; felly mentrais gyrchu at y tir, ac angorais yng ngenau afon fechan; ond ni wyddwn pa un ydoedd, na pha le yr oedd; na pha ledred, pa wlad, pa genhedloedd, na pha