afon. Ni welais ac ni ddymunwn weld pobl o gwbl; y prif beth yr oedd arnaf ei eisiau oedd dŵr croyw. Daethom i'r gilfach hon ym min nos, gan benderfynu nofio i'r lan cyn gynted ag y tywyllai, a chwilio'r wlad; ond cyn gynted â'i bod yn hollol dywyll, clywem oernadau creaduriaid gwylltion yn cyfarth, yn rhuo, ac yn udo (na wyddem ni o ba fathau) nes bod y bachgen druan bron â marw gan ofn, ac erfyniodd arnaf beidio â mynd i'r lan tan y dydd.
"Wel, Xury," meddwn innau, "felly 'd âf fi ddim; ond efallai y gwelwn ni ddynion yn y dydd a fydd cynddrwg i ni â'r llewod yna."
"Yna mi rown y gwn saethu iddyn nhw," ebe Xury, dan chwerthin, a gneud iddyn nhw redeg i ffwrdd."
Fodd bynnag, yr oeddwn yn falch o weld y bachgen mor llon, a rhoddais lymaid iddo (o gistan boteli ein noddwr) i'w sirioli. Wedi'r cwbl, yr oedd cyngor Xury yn un da, a chymerais ef; bwriasom ein hangor bychan ac arosasom yn llonydd drwy'r nos. Dywedaf "yn llonydd," gan na chysgasom ddim; canys ymhen dwyawr neu dair gwelem greaduriaid mawr anferth (ni wyddem beth i'w galw) yn dyfod i lawr i'r traeth ac yn rhedeg i'r dŵr, yn ymdreiglo ac yn ymolchi er mwyn y pleser o ymoeri; a gwnaent y fath oernadau ac ysgrechiadau erchyll, na chlywais i yn wir erioed mo'u bath.
Yr oedd ofn dychrynllyd ar Xury, ac yn wir felly finnau hefyd; ond yr oedd arnom fwy o ofn fyth pan glywsom un o'r creaduriaid anferth hyn yn nofio at ein cwch; ni fedrem ei weld, ond