clywem wrth ei chwythu ei fod yn fwystfil anferth a ffyrnig. Dywedodd Xury mai llew ydoedd, a gallai fod am ddim byd a wyddwn i; ond gwaeddai Xury druan arnaf i godi'r angor a rhwyfo ymaith.
"Na, Xury," meddwn i, "gallwn ollwng ein rhaff â bwi arni, a mynd allan i'r môr; ni fedrant mo'n dilyn ymhell."
Nid cynt y dywedais hynny nag y gwelwn y creadur o fewn dau hyd rhwyf, ac fe'm dychrynodd braidd. Fodd bynnag, cerddais yn syth at ddrws y caban, a chan godi fy ngwn, teniais arno; ar hynny trôdd yn ôl ar unwaith, a nofiodd i'r lan drachefn.
Ond amhosibl yw disgrifio'r oernadau, a'r gweiddi a'r ysgrechian erchyll a ddyrchafwyd,ar fin y traeth yn ogystal ag yn uwch i fyny yn y wlad, wrth sŵn neu ergyd y gwn,—peth na chlywsai'r creaduriaid hynny mohono erioed o'r blaen, mi dybiaf. Argyhoeddodd hyn fi nad oedd wiw i ni fynd i'r lan yn y nos ar y glannau hyn; a sut i fentro i'r lan yn y dydd oedd gwestiwn arall eto; canys buasai syrthio i ddwylo rhai o'r anwariaid, cynddrwg â syrthio i grafangau'r llewod a'r teigrod; o leiaf, yr oedd arnom gymaint o ofn y perygl hwnnw.
Bid a fynno, rhaid oedd i ni fynd i'r lan rywle neu'i gilydd am ddŵr, gan nad oedd gennym yr un peint ar ôl yn y cwch. Dywedodd Xury os gadawn i iddo fynd i'r lan gydag un o'r costrelau, y chwiliai ef a oedd yno ddŵr, a dôi â pheth i mi. Gofynnais iddo paham yr oedd ef am fynd? Paham na allwn i fynd ac yntau aros yn y cwch? Atebodd y bachgen gyda'r fath