dda â hwy dros ffordd bell. Felly cedwais draw, ond siaredais â hwynt drwy arwyddion cystal ag y medrwn, ac yn enwedig gwneud arwyddion am rywbeth i'w fwyta. Gwnaethant amnaid arnaf i stopio fy nghwch, ac fe aent hwythau i nôl cig i mi. Ar hyn gollyngais flaen fy hwyl i lawr, ac arhosais, a rhedodd dau ohonynt i fyny i'r wlad, ac ymhen llai na hanner awr daethant yn ôl, a dwyn dau ddarn o gig wedi ei sychu ac ŷd gyda hwynt, y cyfryw ag sy'n gynnyrch eu gwlad hwy; ond ni wyddem ni beth oedd na'r naill na'r llall. Fodd bynnag, yr oeddem yn fodlon i'w dderbyn; ond sut i ddyfod ato oedd ein dadl nesaf, canys nid oeddwn i am fentro i'r lan atynt hwy, ac yr oedd arnynt hwythau gymaint o'n hofn ninnau; ond cymerasant ffordd ddiogel i bawb ohonom, gan iddynt ddyfod ag ef i'r traeth a'i roi ar lawr a mynd ymaith, a sefyll ymhell i ffwrdd nes i ni ei nôl ar y bwrdd, ac yna daethant yn agos atom drachefn.
Gwnaethom arwyddion diolch iddynt, gan nad oedd gennym ddim i'w roi'n dâl iddynt. Ond daeth cyfle y munud hwnnw i'w boddhau yn anghyffredin; canys tra'r oeddem yn aros wrth y lan, daeth dau greadur enfawr, y naill yn dilyn y llall yn ffyrnig iawn, o'r mynyddoedd tua'r môr; a gwelem fod ar y bobl ofn arswydus, yn enwedig y merched. Ni ffôdd y gŵr â'r waywffon neu'r bicell rhagddynt, ond fe wnaeth y gweddill. Fodd bynnag, gan i'r ddau greadur redeg ar eu hunion i'r dŵr, nid ymddangosent fel pe baent am gynnig disgyn ar ddim un o'r negroaid, ond ymdrochasant yn y môr a nofiasant o amgylch