Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Anturiaethau Robinson Crusoe.djvu/45

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fel pe baent wedi dyfod yno i'w mwynhau eu hunain. O'r diwedd, dechreuodd un ohonynt ddyfod yn nes i'n cwch ni nag y disgwyliem ar y cyntaf; ond yr oeddwn yn barod amdano, gan fy mod wedi rhoi ergyd yn fy ngwn gyda'r brys mwyaf, a pheri i Xury roi ergydion yn y ddau arall. Cyn gynted ag y daeth yn weddol o fewn fy nghyrraedd, teniais a saethais ef yn union yn ei ben; suddodd i lawr ar unwaith i'r dŵr, ond cododd mewn munud a neidiodd i fyny ac i lawr fel pe bai'n ymladd am ei fywyd, ac felly, yn wir, yr oedd. Unionodd am y lan ar unwaith; ond rhwng y clwyf a oedd yn niwed angheuol iddo, a'r dŵr yn ei dagu, bu farw ychydig cyn iddo gyrraedd y lan.

Amhosibl yw disgrifio syndod y creaduriaid truain hyn at sŵn a thân fy ngwn i; yr oedd rhai ohonynt bron marw gan ofn, a syrthiasant i lawr fel yn farw gan ddim ond arswyd. Ond pan welsant y creadur wedi marw ac wedi suddo yn y dŵr, a'm bod innau yn gwneud arwyddion arnynt i ddyfod i'r traeth codasant eu calonnau a daethant i'r traeth, a dechreuasant chwilio am y creadur. Deuthum o hyd iddo trwy fod ei waed yn ystaenio'r dŵr, a thrwy gymorth rhaff a deflais am dano, a'i rhoi i'r negroaid i'w thynnu, llusgasant ef i'r traeth, a gwelsant mai llewpart hynod iawn ydoedd, ac ysmotiau arno; a chodai'r negroaid eu dwylo mewn edmygedd wrth ystyried â pha beth yr oeddwn wedi ei ladd.

Wedi ei ddychrynu gan fflach y tân a sŵn y gwn, nofiodd y creadur arall i'r lan, a rhedodd ar ei union i'r mynyddoedd o'r lle y daethent;