Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Anturiaethau Robinson Crusoe.djvu/46

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac o'r pellter hwnnw ni allwn wybod beth ydoedd. Sylwais yn fuan fod y negroaid am fwyta cig y creadur hwn, ac yr oeddwn yn fodlon iddynt ei gael fel ffafr gennyf; a phan wneuthum arwyddion arnynt y gallent ei gael yr oeddent yn ddiolchgar dros ben am dano. Dechreuasant weithio arno ar unwaith; ac er nad oedd ganddynt yr un gyllell, eto, gyda darn o bren miniog, tynasant ei groen cyn gynted, ac yn gynt o lawer, nag y medrem ni â chyllell. Cynigiasant beth o'r cig i mi, yr hyn a wrthodais; ond gwneuthum arwyddion am y croen, a rhoesant ef i mi yn barod iawn, a daethant â chryn lawer yn rhagor o fwyd i mi. Yna gwneuthum arwyddion arnynt am ddŵr, a deliais allan un o'm costrelau iddynt, gan ei throi â'i gwaelod i fyny i ddangos ei bod yn wag a bod arnaf eisiau ei llenwi. Galwasant yn ddioed ar rai o'u cyfeillion, a daeth dwy wraig yno gan ddwyn llestr pridd mawr, wedi ei grasu yn yr haul mae'n debyg. Rhoesant hwn ar lawr i mi fel o'r blaen, ac anfonais Xury i'r lan gyda'm costrelau, a llanwodd y tair.

Yr oedd gennyf yn awr wreiddiau, ac ŷd o ryw fath, a dŵr; a chan adael y negroaid cyfeillgar, euthum ymlaen am tuag un dydd ar ddeg arall, heb gynnig mynd yn agos i'r lan, hyd nes y gwelwn tir yn rhedeg allan ymhell i'r môr, pellter o tua phedair neu bum milltir o'm blaen; a chan fod y môr yn dawel iawn, cedwais allan ymhell er mwyn cyrraedd y pwynt hwn. O'r diwedd, wrth fynd heibio i'r trwyn, tua dwy filltir o'r tir, gwelwn dir yn eglur ar yr ochr arall yng nghyfeiriad y môr; yna cesglais mai hwn ydoedd Cape