Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Anturiaethau Robinson Crusoe.djvu/47

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

de Verde, ac mai y rheini oedd yr ynysoedd a elwir oherwydd hynny yn Ynysoedd Cape de Verde. Fodd bynnag, yr oeddynt ymhell iawn, ac ni wyddwn yn iawn beth oedd orau i mi ei wneud, canys pe'm delid gan awel o wynt efallai na chyrhaeddwn i mo'r naill na'r llall.

Yng nghanol y benbleth hon, gan fy mod yn drist iawn, cerddais i'r caban ac eisteddais i lawr, a gadael Xury wrth y llyw; ac yn sydyn dyma'r bachgen yn gweiddi, Meistr, meistr, llong â hwyliau arni!" ac 'roedd y bachgen druan allan o'i bwyll gan ofn, yn meddwl mai un o longau ei feistr ydoedd, wedi ei gyrru ar ein holau, a minnau'n gwybod ein bod wedi mynd yn ddigon pell o'u gafael. Neidiais allan o'r caban a gwelwn ar unwaith, nid yn unig y llong, ond beth ydoedd, sef, mai llong Bortugeaidd ydoedd, ac, fel y tybiwn i, yn rhwym i lannau Guinea am negroaid.

Hyd yn oed â hwyliau llawn, gwelwn na fedrwn ddyfod i'w ffordd, a byddent wedi mynd heibio cyn y gallwn wneud yr un arwydd iddynt; ond wedi i mi gasglu pob cerpyn oedd gennyf, ac yn dechrau digalonni, gwelsant fi, mae'n debyg, gyda'u sbienddrychau, ac mai cwch Ewropeaidd ydoedd, yn perthyn fel y tybient hwy, i ryw long oedd wedi colli, a rhoesant lai o hwyliau er mwyn i mi eu dal, ac ymhen tua theirawr deuthum atynt.

Gofynasant i mi beth oeddwn, mewn Portugaeg, Ysbaeneg a Ffrangeg, ond ni ddeallwn ddim arnynt. O'r diwedd galwodd llongwr Ysgotaidd arnaf, ac atebais ef mai Sais oeddwn, a'm bod wedi dianc o gaethiwed oddiar y Mwriaid yn Sallee.