Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Yna parasant i mi ddyfod ar y bwrdd, ac yn garedig iawn cymerasant fi a'm celfi i gyd i mewn.
Yr oedd yn llawenydd anhraethol i mi fy mod wedi fy ngwaredu fel hyn o'r cyflwr truenus ac anobeithiol yr oeddwn ynddo; ac yn ddioed cynigiais bopeth oedd gennyf i gapten y llong fel tâl am fy ngwaredigaeth. Ond bu'n ddigon hael i ddweud wrthyf na chymerai ef ddim byd gennyf, ond fe drosglwyddid i mi bopeth oedd gennyf pan gyrhaeddwn y Brazils.