PENNOD IV.
SEFYDLU YN Y BRAZILS—MYND AR FORDAITH ARALL—LLONGDDRYLLIAD.
GORCHMYNNODD y capten nad oedd neb i gyffwrdd â dim byd oedd gennyf; yna cymerodd y cwbl i'w feddiant ei hun, a rhoddodd restr gyflawn i mi ohonynt, fel y cawn hwynt yn ôl,—hyd yn oed fy nhair costrel bridd.
Gyda golwg ar fy nghwch, yr oedd yn un da iawn, a gwelodd yntau hynny, a dywedodd wrthyf y buasai yn ei brynu; a gofynnodd i mi faint oedd arnaf ei eisiau am dano. Dywedais wrtho ei fod wedi bod mor haelfrydig wrthyf ym mhopeth na fedrwn i ddim cynnig rhoi pris yn y byd ar y cwch ond ei adael yn gyfangwbl iddo ef. Ar hynny dywedodd wrthyf y rhoddai ef i mi bedwar ugain o ddarnau wyth am dano ym Mrazil. Cynigiodd i mi hefyd drigain o ddarnau wyth[1] yn rhagor am fy machgen Xury, ac yr oedd yn ddrwg gennyf eu cymryd; nid am nad oeddwn yn fodlon i'r capten ei gael, ond yr oedd yn anodd iawn gennyf werthu rhyddid y bachgen a'm cynorthwyasai mor ffyddlon i ennill fy rhyddid fy hun. Fodd bynnag, pan ddywedais fy rheswm wrtho, cyfaddefai ei fod yn deg, a chynigiodd i
- ↑ Darnau arian a ddefnyddid yn Ysbaen.