mi y buasai'n ymrwymo i ryddhau'r bachgen ymhen deng mlynedd os deuai'n Gristion. Ar hyn, a Xury yntau yn dweud ei fod yn fodlon mynd ato, gadewais i'r capten ei gael.
Cawsom fordaith dda iawn i Frazil, a chyraeddasom Fae de Todos los Santos, neu Fae'r Holl Seintiau, ymhen tua dau ddiwrnod ar hugain wedyn. Ac yn awr yr oeddwn unwaith eto wedi fy ngwaredu o un o'r cyflyrau mwyaf truenus mewn bywyd, ac yr oedd yn rhaid i mi ystyried beth i'w wneud nesaf â mi fy hun.
Ni allaf fyth gofio digon am ymddygiad haelfrydig y capten tuag ataf. Ni chymerai ddim gennyf am fy nghludo; rhoddodd ugain ducat[1] i mi am groen y llewpart a deugain am groen y llew oedd gennyf yn y cwch, a pharodd drosglwyddo popeth oedd yn y cwch i mi ar unwaith; a'r pethau yr oeddwn yn barod i'w gwerthu fe'u prynodd, megis y gistan boteli, dau o'm gynnau, a darn o'r telpyn cŵyr melyn, gan fy mod wedi gwneud canhwyllau o'r gweddill; mewn gair, gwneuthum tua 220 o ddarnau wyth o'm cargo gyd, ac â'r stoc hon fe euthum i'r lan yn y Brazils.
Nid oeddwn wedi bod yno yn hir iawn cyn dyfod i adnabod teulu rhyw ŵr da ac onest, a chanddo ingeino fel y galwant hwy hi, sef yw hynny, planhigfa a thy siwgr. Bûm yn byw gydag ef am beth amser, ac felly deuthum yn gyfarwydd â'r dull o blannu a gwneuthur siwgr; ac wrth weld mor dda yr oedd y planwyr yn byw, ac fel yr ymgyfoethogent yn gyflym, penderfynais os medrwn gael trwydded i sefydlu yno, y trown innau'n
- ↑ Hen ddarn aur tramor gwerth tua naw swllt,