Wedi byw am bedair blynedd bron yn y Brazils, a dechrau ffynnu a llwyddo yn lled dda ar fy mhlanhigfa, yr oeddwn nid yn unig wedi dysgu'r iaith, ond wedi ennill cydnabod a chyfeillgarwch ymhlith fy nghyd-blanwyr yn ogystal ag ymysg y masnachwyr yn St. Salvador ein porthladd ni, ac yn fy ymddiddanion â hwynt yr oeddwn yn fynych wedi adrodd yr hanes wrthynt am fy nwy fordaith i lannau Guinea, y dull o fasnachu â'r negroaid yno, ac mor hawdd oedd prynu ar y glannau am ryw fân bethau,—megis gleiniau, teganau, cyllyll, sisyrnau, bwyeill, darnau o wydr, a phethau o'r fath, nid yn unig lwch aur, grawn Guinea, dannedd cawrfilod, etc., ond negroaid i wasanaethu'r Brazils yn niferoedd mawrion.
Gwrandawent yn astud iawn bob amser ar fy areithiau ar y pennau hyn, ond yn arbennig ar y rhan honno oedd yn sôn am brynu negroaid, masnach na wneid mohoni i raddau mawr y pryd hwnnw, ond cyn belled ag y gwneid hi, dygasid hi ymlaen trwy assiento, neu ganiatâd brenhinoedd Ysbaen a Phortugal; fel na phrynid ond ychydig Negroaid, a'r rheini yn eithafol o ddrud.
Wedi bod yng nghwmni rhai masnachwyr a phlanwyr o'm cydnabod, a siarad yn frwd anghyffredin am y pethau hynny, digwyddodd tri ohonynt ddyfod ataf fore trannoeth, a dywedasant wrthyf eu bod wedi bod yn meddwl yn ddwys am y peth y soniaswn amdano wrthynt y noson cynt, ac yr oeddynt wedi dyfod i wneud cynnig cyfrinachol i mi. Ac ar ol fy rhybuddio i gadw'r gyfrinach, dywedasant wrthyf fod arnynt awydd