Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Anturiaethau Robinson Crusoe.djvu/59

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dynion yn gweiddi "Tir!" a chyn gynted â'n bod wedi rhedeg allan o'r caban gan ddisgwyl gweld ymhle yn y byd yr oeddem, dyma'r llong yn taro ar y tywod, ac mewn munud dyna'r môr yn torri drosti yn y fath fodd nes peri i ni i gyd feddwl ei bod wedi darfod amdanom ar unwaith; ac fe'n gyrrwyd i gyd i'n llochesau i ymguddio rhag ewyn a throchion y môr.

Gan fod y llong wedi taro ar y tywod, ac wedi glynu gormod i ni i feddwl ei chael ymaith, yr oeddem mewn cyflwr difrifol iawn, ac nid oedd dim i'w wneud ond ceisio achub ein bywydau orau y medrem. Yr oedd gennym gwch wrth starn ychydig cyn y storm, ond fe'i torrwyd ddechrau trwy iddo guro yn erbyn llyw'r llong, ac wedyn torrodd yn rhydd, ac un ai fe suddodd neu ynteu fe'i gyrrwyd allan i'r môr, fel nad oedd dim gobaith amdano. Yr oedd gennym gwch arall ar y bwrdd, ond yr oedd yn amheus a ellid ei gael allan i'r môr. Fodd bynnag nid oedd dim amser i amau, gan y tybiem y torrai'r llong yn ddarnau bob munud, a dywedai rhywrai ei bod eisoes wedi torri.

Yn yr helbul hwn, cydiodd mêt y llong yn y cwch, a chyda help y gweddill o'r dynion, taflasant ef dros ochr y llong; a chan fynd iddo i gyd, gollyngasom ef yn rhydd, ac fe'n bwriasom ein hunain (un ar ddeg mewn nifer) ar drugaredd Duw a'r môr gwyllt. Canys er bod y storm wedi gostegu cryn lawer, eto codai'r môr yn uchel ddychrynllyd ar y traeth, a gellid yn hawdd ei alw den wild zee, fel y geilw'r Isalmaenwyr y môr mewn storm.