Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Anturiaethau Robinson Crusoe.djvu/60

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Wedi i ni rwyfo, neu yrru yn hytrach, tua milltir a hanner, cododd ton gynddeiriog, fel mynydd, o'r tu ôl i ni, ac fe'n trawodd gyda'r fath gynddaredd nes dymchwelyd y cwch ar unwaith, a chan ein gwahanu oddiwrth y cwch yn ogystal ag oddiwrth ein gilydd, ni roddodd i ni bron ddigon o amser i ddweud "O Dduw," canys fe'n llyncwyd oll mewn munud.

Ni all dim ddisgrifio'r dryswch meddwl a deimlwn pan suddais i'r dŵr; canys er y gallwn nofio yn lled dda, eto ni fedrwn ymryddhau o'r tonnau er mwyn cael fy anadl, nes i'r don honno wedi iddi fy ngyrru, neu fy nghario yn hytrach, fynd yn ôl, a'm gadael ar dir sych bron, eithr yn hanner marw gan y dŵr yr oeddwn wedi ei lyncu. Yr oedd gennyf ddigon o barodrwydd meddwl yn ogystal ag o anadl ar ôl, fel, wrth fy ngweld fy hun yn nes i'r tir mawr nag y disgwyliwn, y codais ar fy nhraed a cheisiais gyrchu i'r tir cyn gynted ag y medrwn cyn i don arall ddychwelyd a'm codi eilwaith. Ond gwelais yn bur fuan mai amhosibl oedd ei hosgoi; canys gwelwn y môr yn fy nilyn cyn uched â bryn mawr, ac mor ffyrnig â gelyn nad oedd gennyf na modd na nerth i ymladd yn ei erbyn. Fy ngwaith i oedd dal fy anadl, a'm codi fy hunan ar y dŵr os medrwn; a'm pryder pennaf yn awr oedd y byddai i'r don wrth iddi fy nghludo ymhell tua'r lan pan ddeuai ymlaen, fy nghludo'n ôl drachefn pan giliai i gyfeiriad y môr.

Bu i'r don a ddaeth ar fy ngwarthaf drachefn fy nghladdu ar unwaith tuag ugain neu ddeg troedfedd ar hugain yn ei chrombil, ac fe'm