clywn fy hun yn cael fy nghario gyda grym a chyflymdra aruthrol tua'r lan am ffordd bell; ond deliais fy anadl, a cheisiais nofio ymlaen gyda'm holl nerth. Yr oeddwn bron a hollti wrth ddal fy ngwynt, pan glywn fy mhen a'm dwylo yn saethu ymlaen dros wyneb y dŵr, ac er na fedrwn fy nal fy hun felly am ddau eiliad, eto cefais beth anadl a dewrder newydd. Fe'm gorchuddiwyd eilwaith â dŵr am gryn amser, ond nid yn rhy hir i mi fedru dal; ac wrth weld y dŵr yn dechrau cilio, gwthiais ymlaen yn erbyn y tonnau a theimlwn y tir â'm traed drachefn. Sefais yn llonydd am ychydig funudau i ennill fy anadl nes i'r dŵr gilio oddiwrthyf, yna sodlais hi a rhedais gyda hynny o nerth oedd gennyf i gyfeiriad y lan. Ond ni wnâi hyn ychwaith fy ngwaredu rhag cynddaredd y môr a ymarllwysai arnaf unwaith yn rhagor, ac fe'm codwyd ddwywaith drachefn gan y tonnau, ac fe'm cludwyd ymlaen fel cynt, gan fod y traeth yn lled wastaď.
Bu'r tro olaf o'r ddau bron yn angau i mi; gan i'r môr fy nhaflu yn erbyn darn o graig, a hynny gyda'r fath rym nes fy ngwneud yn hurt ac yn hollol ddiymadferth i'm gwaredu fy hun; a chan i'r ergyd wrth daro fy ystlys a'm mynwes guro'r anadl bron i gyd o'm corff; a phe buasai wedi dychwelyd ar unwaith, buaswn wedi fy nhagu yn y dŵr. Ond dadebrais ychydig cyn i'r tonnau ddychwelyd, ac wrth weld y cuddid fi eto â'r dŵr, penderfynais ddal gafael mewn darn o graig, a dal fy anadl felly os medrwn, nes i'r don gilio. Gan nad oedd y tonnau cyfuwch ag oeddynt ar y cyntaf, deliais fy ngafael nes i'r