don dawelu, ac yna cymerais râs arall, a'm dug mor agos i'r lan, fel na wnaeth y don nesaf mo'm llyncu nes fy nghludo ymaith; a'r râs nesaf a gymerais, cyrhaeddais y tir mawr, lle y dringais fyny allt y môr ac eisteddais ar y glaswellt, yn rhydd o bob perygl ac yn hollol glir o afael y dŵr.
Yr oeddwn yn awr yn ddiogel ar y lan, a dechreuais edrych i fyny a diolch i Dduw fod fy mywyd wedi ei arbed er nad oedd ond ychydig obaith am hynny ychydig funudau ynghynt. Cerddais o amgylch ar hyd y traeth, gan godi fy nwylo a gwneud miloedd o ystumiau ac ysgogiadau na fedraf eu disgrifio, a meddwl am fy holl gymdeithion oedd wedi boddi heb ddim enaid wedi ei achub heblaw fi; canys, gyda golwg arnynt hwy, ni welais mohonynt wedyn na'r un arwydd ohonynt, dim ond tair o'u hetiau, un cap, a dwy esgid heb fod yn gymheiriaid.
Yna dechreuais edrych o'm cwmpas i weld ymha fath le yr oeddwn, a beth oedd i'w wneud nesaf, a gwelwn fy mod wedi cael gwaredigaeth ofnadwy, canys yr oeddwn yn wlyb, heb ddim dillad i'w newid, na dim byd i'w fwyta nac i'w yfed i'm cysuro; ni welwn ychwaith ddim rhagolygon o'm blaen heblaw marw o newyn neu fy nifa gan fwystfilod rheibus; a'r peth oedd yn peri trallod arbennig i mi oedd, nad oedd gennyf yr un arf i hela a lladd rhyw greadur yn gynhaliaeth i mi, neu i'm hamddiffyn fy hun rhag un o'r creaduriaid a fynnai fy lladd yn fwyd. Mewn gair, nid oedd gennyf ddim byd ond cyllell, pibell, ac ychydig dybaco mewn blwch. Dyma'r unig ddarpariaeth oedd gennyf, a pharodd hyn