Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Anturiaethau Robinson Crusoe.djvu/69

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

darn o gig gafr wedi ei sychu, ac ychydig weddill o ŷd Ewrop a gadwasid gennym i'r ieir a ddygasem ar y môr gyda ni, ond lladdwyd yr ieir. Yr oedd yno haidd a gwenith yn gymysg, ond er dirfawr siom i mi, gwelais wedyn fod y llygod mawr un ai wedi ei fwyta neu ei ddifetha i gyd. Am y gwirodydd, cefais amryw boteli oedd yn perthyn i'n capten. Dodais y rhain o'r neilltu gyda'i gilydd, gan nad oedd dim angen eu dodi yn y gist, na dim lle iddynt. Tra'r oeddwn yn gwneud hyn, gwelwn y llanw'n dechrau llifo, er yn dawel iawn; a chefais y siom o weld fy nghôt, fy nghrys, a'm gwasgod, a adawswn ar y traeth, yn nofio ymaith; parthed fy nghlôs, nad oedd yn ddim ond İliain ac yn agored yn ei benliniau, yr oeddwn wedi nofio ynddo, ac yn fy 'sanau. Beth bynnag, parodd hyn i mi chwilota am ddillad, a chefais ddigon ohonynt, ond ni chymerais ddim mwy nag yr oedd eu hangen arnaf ar y pryd, canys yr oedd yno bethau eraill yr oeddwn â'm llygaid arnynt, megis arfau i'w defnyddio ar y lan; ac wedi chwilio hir y deuthum o hyd i gist y saer, oedd yn gaffaeliad defnyddiol iawn i mi, ac yn fwy gwerthfawr o lawer nag a fuasai llwyth Ilong o aur y pryd hwnnw. Cefais hi i lawr i'm rafft yn ei chrynswth fel yr oedd, heb golli dim amser i edrych iddi, gan y gwyddwn beth a gynhwysai.

Fy mhryder nesaf oedd ynghylch taclau saethu ac arfau; yr oedd dau dryll lled dda yn y caban mawr, a dau bistol; sicrheais y rhain gyntaf, gyda chyrn powdwr a chwdyn bychan o haels, a dau hen gleddyf rhydlyd. Gwyddwn fod tair baril o bowdwr yn y llong, ond ni wyddwn ymha