ohonynt; eto gwelais ddigon o adar, ond ni wyddwn pa fathau, ac wedi i mi eu lladd ni fedrwn ddweud beth oedd yn gymwys i'w fwyta abeth nad oedd. Wrth i mi ddyfod yn ol, saethais aderyn mawr a welais yn eistedd ar goeden ar gwr coedwig fawr. Credaf mai dyma'r gwn cyntaf a daniasid yno er creadigaeth y byd. Nid cynt y taniaswn nag y cododd o bob rhan o'r goedwig aneirif luoedd o adar o bob math, yn ysgrechian yn drystfawr a phob un yn gweiddi yn ei sain arferol ei hun; ond heb fod un ohonynt o'r math a adwaenwn i. Parthed y creadur a leddais, tybiwn mai math o hebog ydoedd, gan fod ei liw a'i big yn debyg iddo, ond nid oedd ganddo ewinedd neu grafangau mwy na'r cyffredin. Ysglyfaeth oedd ei gig, ac nid oedd yn werth dim.
Meddyliwn yn awr y gallwn gael llawer o bethau yn ychwaneg o'r llong a fyddai yn ddefnyddiol iawn i mi, ac yn enwedig rhai o'r rhaffau a'r hwyliau; a phenderfynais wneud mordaith arall i'r llong, os medrwn. Gan y gwyddwn y byddai'r storm gyntaf a chwythai yn sicr o'i thorri'n ddarnau, penderfynais roddi popeth arall heibio hyd nes y cawn bopeth a allwn allan o'r llong. Yna gelwais gyngor, hynny ydyw, yn fy meddwl fy hun, pa un a gymerwn i'r rafft yn ôl, ond ymddangosai hyn yn anymarferol; felly penderfynais fynd fel o'r blaen pan fyddai'r llanw allan, a gwneuthur hynny; ond tynnais fy nillad cyn mynd o'm caban, ac nid oedd gennyf ddim amdanaf ond crys brith a phâr o drors lliain, a phâr o hen 'sgidiau am fy nhraed.