Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Anturiaethau Robinson Crusoe.djvu/80

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr hen afr ymaith ar fy ysgwyddau, dilynodd y myn fi hyd at fy amddiffynfa. Ar hynny, rhoddais y famog i lawr, a chymerais y myn yn fy mreichiau, a chludais ef dros y clawdd gan ddisgwyl ei ddofi; ond ni wnâi fwyta dim, ac oherwydd hynny gorfu i mi ei ladd, a'i fwyta fy hunan. Rhoddodd y ddau hyn ddigon o gig i mi am amser maith, gan mai bwyta'n brin a wnawn, a chynilo fy mwyd, yn enwedig fy mara, gymaint fyth ag a fedrwn.

Ac yn awr gan fy mod ar fin rhoddi hanes golygfa brudd o fywyd tawel, y fath, efallai, na chlywyd am ei debyg yn y byd erioed o'r blaen, fe ddechreuaf o'r dechrau, ac fe'i dilynaf yn ei drefn. Yn ol fy nghyfrif i, y 30 o Fedi ydoedd pan osodais fy nhroed gyntaf ar yr ynys erchyll hon, pan oedd yr haul bron yn hollol uwch fy mhen; canys trwy sylwi, barnwn fy mod yn lledred 9° 22' ar y gogledd i'r llinell.