PENNOD VII.
DULL ROBINSON O GYFRIF AMSER—ANAWSTERAU YN CODI
TRWY DDIFFYG ARFAU—TREFNU EI GARTREF.
WEDI i mi fod yno am tua deng niwrnod neu ddeuddeg, trawodd i'm meddwl collwn fy nghyfrif ar amser trwy ddiffyg llyfrau a phin ac inc, ac yr anghofiwn hyd yn oed y Sabathau oddiwrth ddyddiau gwaith; ond i ochelyd hyn, fe'i torrais â'm cyllell mewn prif lythrennau ar bostyn mawr; a chan wneud croes fawr ohono, gosodais ef i fyny ar y traeth lle y gleniais gyntaf, fel hyn:
"Gleniais yma ar y 30 0 Fedi, 1659."
Ar ochrau'r postyn sgwâr hwn torrais fwlch â'm cyllell bob dydd, a'r seithfed bwlch bob tro gyhyd arall â'r gweddill, a phob dydd cyntaf o'r mis gyhyd arall â'r un hir hwnnw; ac fel hyn y cedwais fy nghalendr.
Wedi hyn, ymhlith pethau eraill a gludaswn o'r llong, deuthum ar draws amryw bethau defnyddiol i mi, megis, pin ysgrifennu, inc, a phapur, tri chwmpawd neu bedwar, siartiau, a İlyfrau morwriaeth. Hefyd, deuthum o hyd i dri Beibl ardderchog, llyfrau Portugaeg, ac yn eu