mysg ddau neu dri o lyfrau gweddi Pabaidd, ac amryw lyfrau eraill. A rhaid i mi beidio ag anghofio hefyd fod gennym gi a dwy gath yn y llong; canys cludais y ddwy gath gyda mi; ac am y ci, neidiodd ohono'i hun o'r llong, a nofiodd i'r lan ataf y diwrnod ar ôl i mi lanio gyda'm llwyth cyntaf, a bu'n was ffyddlon i mi am lawer o flynyddoedd. Ni bu arnaf eisiau dim byd a allai ef ei nôl i mi, na chwmpeini a allai ef ei roddi i mi; dim ond eisiau iddo siarad â mi oedd arnaf, ond ni allai wneud hynny. Fel y sylwais o'r blaen, cefais hyd i bin sgrifennu, inc, a phapur, a chedwais hwynt yn ofalus; a thra parhaodd fy inc cedwais bethau'n fanwl iawn, ond wedi i hwnnw ddarfod ni allwn, gan na fedrwn ddyfeisio ffordd i wneud inc o gwbl.
Ac atgofiodd hyn fi fod arnaf eisiau amryw bethau, er gwaethaf popeth a gasglaswn ynghyd; ac ymysg y rhain, inc oedd un peth, a hefyd rhaw a chaib i gloddio neu symud y pridd, nodwyddau, pinnau, ac edau. Yr oedd diffyg arfau fel hyn yn peri bod pob gwaith a wnawn yn drwm iawn; ac aeth blwyddyn bron heibio cyn i mi orffen y clawdd o amgylch fy nhrigfan. Gwaith araf iawn oedd torri a darparu'r polion neu'r ystanciau yn y coed, ac arafach fyth oedd eu cludo adref; fel y treuliwn weithiau ddau ddiwrnod yn torri a chludo adref un o'r pyst hynny, a thrydydd diwrnod yn ei bwyo i'r ddaear. Ond pa raid oedd i mi ymboeni ynghylch meithder dim byd a wnawn a chennyf innau ddigonedd o amser i'w wneud? Ac nid oedd gennyf yr un gorchwyl arall, petasai hwnnw drosodd, oddieithr crwydro'r ynys i chwilio am