fwyd; peth a wnawn fwy neu lai bob dydd. Ac yn awr gan fy mod yn dechrau dygymod â'm sefyllfa, ac wedi rhoddi heibio syllu i'r môr i edrych a welwn i long, dechreuais drefnu fy ffordd o fyw, a gwneud pethau cyn hawsed i mi ag y medrwn. Yr wyf eisoes wedi disgrifio fy nghartref, sef pabell o dan ochr craig, wedi ei hamgylchu â gwrych cadarn o byst a rhaffau; ond gallwn yn hytrach ei alw yn glawdd yn awr, gan i mi godi math o glawdd tywyrch yn ei erbyn, tua dwy droedfedd o drwch o'r tu allan; ac ymhen peth amser codais drawstiau arno â'u gogwydd i'r graig, a thoais ef â changau coed, ac unrhyw beth a fedrwn ei gael, i gadw'r glaw allan, a oedd yn ofnadwy ar rai adegau o'r flwyddyn.
Sylwais eisoes sut y cludais fy nghelfi i gyd i'r amddiffynfa hon ac i'r ogof a wneuthum y tu cefn iddi. Ond rhaid i mi sylwi hefyd mai pentwr cymysg o daclau oedd hwn ar y cyntaf, a chan nad oedd trefn yn y byd arnynt aent â'm lle i gyd; nid oedd gennyf ddim lle i droi. Felly ymroddais ati i helaethu fy ogof ac i weithio ymhellach i'r ddaear, gan mai craig rydd dywodog ydoedd, ac yn ildio'n rhwydd i'm llafur. Gweithiais ymlaen i'r dde i mewn i'r graig; ac yna, gan droi i'r dde drachefn, gweithiais allan, a gwneuthum ddrws i mi allu dyfod oddiyno yr ochr allan i'm gwrych neu'r amddiffynfa. Rhoddodd hyn i mi fath o ddrws cefn i'm pabell a'm hystordy, a digon o le i ystorio fy mhethau.
Ac yn awr dechreuais wneud y pethau yr oedd arnaf fwyaf o'u hangen, yn enwedig cadair a bwrdd; canys heb y rhain ni allwn fwynhau'r