Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Anturiaethau Robinson Crusoe.djvu/89

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ystod yr amser hwn maluriwyd y llong yn ddarnau (gan fod y gwynt yn chwythu'n beth cryfach na chynt), ac nid oedd mwyach i'w gweld,—dim ond darnau ohoni; a hynny ddim ond ar ddŵr isel. Treuliais y diwrnod hwn i roddi'r pethau yr oeddwn wedi eu hachub dan do, ac i'w diogelu rhag ofn i'r glaw eu difetha.

Hydref 26.—Cerddais o amgylch y traeth bron drwy'r dydd i chwilio am le i osod fy mhreswylfod. Tua min nos penderfynais ar fan priodol o dan graig.

Hydref 26—30.—Gweithiais yn galed iawn i gludo fy holl bethau i'm cartref newydd, er ei bod yn bwrw glaw yn drwm iawn yn ystod rhan o'r amser.

Yr 31.—Yn y bore, euthum allan i'r ynys gyda'm gwn, i edrych am fwyd, ac i archwilio'r wlad; a phan leddais afr, dilynodd ei myn fi adref, a lleddais hwnnw wedyn, gan na fwytâi.

Tach. 1.—Gosodais fy mhabell o dan graig, ac arhosais yno am y noson gyntaf; gan ei gwneud gymaint ag a allwn, gyda physt wedi eu gyrru i'r ddaear i hongian fy hamoc arnynt.

Tach. 2.—Gosodais fy nghistiau a'm hestyll i fyny, a'r darnau coed oedd yn fy rafftiau, ac â'r rhain gwneuthum glawdd o'm hamgylch, ychydig y tu mewn i'r lle yr oeddwn wedi ei farcio i'm hamddiffynfa.

Tach. 3.—Euthum allan gyda'm gwn, a saethais ddau aderyn tebyg i hwyaid a oedd yn fwyd da iawn. Yn y prynhawn mynd ati i wneud bwrdd.

Tach. 4.—Bore heddiw dechreuais drefnu fy mhrydiau gweithio, mynd allan gyda'm gwn,