Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Anturiaethau Robinson Crusoe.djvu/91

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

neu fasged; felly rhoddais heibio i weithio, a dechrau ystyried sut i gyflenwi'r diffyg, a gwneud ychydig arfau i mi fy hun.

Tach. 18.—Drannoeth, wrth chwilio'r coedwigoedd, cefais hyd i goeden o'r pren hwnnw a elwir yn y Brazils yn goeden haearn, oherwydd ei chaledwch anghyffredin; trwy ddirfawr lafur, a thrwy ddifetha fy mwyall bron, torrais ddarn ohoni, a deuthum ag ef adref gyda chryn lawer o anhawster, gan ei fod yn drwm dros ben. Gweithiais ef bob yn dipyn i ffurf rhaw, a gwasanaethodd yn eithaf i'm dibenion i.

Tach. 23.—Gan i'm gwaith arall aros yn yr unfan oherwydd fy mod yn gwneud yr arfau hyn, pan orffennwyd hwynt euthum ymlaen, gan weithio bob dydd yn ôl fel y caniatâi fy nerth ac amser. Bûm ddeunaw diwrnod cyfan yn lledu ac yn dyfnhau fy ogof er mwyn iddi ddal fy nwyddau'n hwylus.

Rhag. 10.—Tybiwn yn awr fod fy ogof neu fy naeargell wedi ei gorffen, pan yn ddisymwth syrthiodd llawer o bridd o'r top, ac yr oedd cymaint ohono ar un ochr nes fy nychrynu, ac nid heb reswm ychwaith, canys petaswn i dano ni fuasai arnaf byth eisiau torrwr beddau. Wedi'r trychineb hwn, yr oedd gennyf gryn lawer o waith i'w ail—wneud, gan fod yn rhaid i mi gario'r pridd rhydd allan; a pheth oedd yn bwysicach fyth, yr oedd yn rhaid i mi roddi pyst i gynnal y nenfwd, er mwyn bod yn sicr na ddisgynnai dim rhagor.

Rhag. 11.—Y diwrnod hwn euthum i weithio arno, a gosodais ddau bost yn syth i'r top, gyda