dau ddernyn o ystyllen ar draws uwchben pob postyn; gorffennais hyn drannoeth; a chan osod rhagor o byst gydag ystyllod, ymhen tuag wythnos yr oeddwn wedi diogelu'r to, a chan fod y pyst yn rhesi, gwasanaethent yn lle parwydydd i rannu fy nhŷ.
Rhag. 17. O'r diwrnod hwn i'r ugeinfed gosodais silffoedd, a phwyais hoelion i'r pyst i hongian popeth a ellid ei hongian; ac yn awr yr oeddwn yn dechrau cael trefn ar bethau o'r tu mewn.
Rhag 20.—Cludais bopeth i'r ogof, a dechreuais ddodrefnu fy nhŷ, a gosodais ddarnau o ystyllod i fyny fel tresal i ddal fy mwyd; hefyd fe wneuthum fwrdd arall.
Rhag. 24. Glaw mawr drwy'r nos a thrwy'r dydd; dim cyffro o'r fan.
Rhag. 25.—Glaw drwy'r dydd.
Rhag. 26.—Dim glaw, a'r ddaear yn oerach o lawer na chynt, ac yn hyfrytach.
Rhag. 27.—Lladd gafr ieuanc, a chloffi un arall, fel y llwyddais i'w dal, ac arweiniais hi adref wrth linyn. Wedi ei chael adref, rhwymais ei choes, yr hon oedd wedi ei thorri.
N.B.—Cymerais gymaint o ofal drosti fel y bu fyw, a thyfodd ei choes yn iawn a chyn gryfed ag erioed, a daeth yn ddof, a phorai ar y llannerch wrth fy nrws, a gwrthodai symud oddiyno.
Rhag. 28, 29, 30.—Gwres mawr a dim awel; dim mynd allan o gwbl, oddieithr ym min nos am fwyd. Treuliais yr amser hwn i drefnu fy mhethau o dan do.
Ionawr 1.—Poeth iawn o hyd, ond euthum allan gyda'm gwn hwyr a bore, a gorwedd yn