Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Anturiaethau Robinson Crusoe.djvu/93

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dawel ganol dydd. Heno, wrth fynd ymhellach i'r dyffrynnoedd sydd tua chanol yr ynys, gwelais fod yno ddigon o eifr, er eu bod yn hynod swil ac anodd mynd atynt; fodd bynnag, penderfynais ddod â'm ci i'w hela.

Ion. 2.—Mynd allan gyda'r ci, a'i yrru ar ôl y geifr; ond yr oeddwn wedi camsynied, canys troesant i gyd ar y ci, a gwyddai ei berygl yn rhy dda, gan na ddeuai'n agos atynt.

Ion. 3.—Dechreuais ar fy nghlawdd neu fy mur; a Rhag ofn i rywun ymosod arnaf, penderfynais ei wneud yn drwchus iawn a chryf.

N.B.—Gan fod y clawdd wedi ei ddisgrifio eisoes, digon yw sylwi na fûm i ddim llai o amser nag o Ion. 3ydd i Ebrill 14eg yn gweithio arno, er nad ydoedd dros bedair llath ar hugain o hyd.

Yn ystod yr amser hwn, awn am dro i'r coed am helwriaeth bob dydd, pan ganiatâi'r glaw i mi, a gwneuthum amryw ddarganfyddiadau ar y teithiau hyn o rywbeth neu'i gilydd a fyddai o fantais i mi; yn neilltuol, deuthum ar draws math o golomennod gwylltion a nythai, nid fel ysguthanod mewn coeden, ond yn hytrach fel colomennod dof yn nhyllau'r creigiau. A chan gymryd rhai o'r cywion, ceisiais eu dofi, ac fe wneuthum hynny; ond pan aethant yn hŷn ehedodd y cwbl i ffwrdd; efallai o ddiffyg eu bwydo ar y cyntaf, gan nad oedd gennyf ddim i'w roddi iddynt. Fodd bynnag, deuwn o hyd i'w nythod yn fynych, a chawn rai o'r cywion oedd yn gig da iawn.

Yng nghanol fy helyntion i gyd, wrth chwilota fy mhethau, digwyddais ddyfod ar draws cwdyn bychan oedd wedi ei lenwi ag ŷd i fwydo ieir,