nid ar y fordaith hon, ond cyn hyn, mae'n debyg, pan ddaeth y llong o Lisbon. Yr oedd yr ychydig weddill o ŷd a fuasai yn y cwdyn wedi ei ddifa gan lygod mawr, ac ni welais ddim byd yn y cwdyn ond us a llwch; a chan fy mod yn awyddus i gael cwdyn at amcan arall, ysgydwais yr ŷd ohono ar y naill du i'm hamddiffynfa o dan y graig. Ychydig cyn y glawogydd mawrion, y soniwyd amdanynt gynnau, y teflais y stwff yma i ffwrdd, heb gymaint â chofio fy mod wedi taflu dim byd yno. Ond ymhen tua mis wedyn, gwelais ryw ychydig egin gleision yn tarddu o'r ddaear, ac fe synnais yn fawr, pan welais, ymhen ychydig amser, tua deg neu ddeuddeg tywysen yn dyfod allan, a'r rheini yn haidd glas perffaith, o'r un fath â haidd Ewrop neu haidd Lloegr.
Ar y cyntaf tybiwn mai gwir gynhyrchion Rhagluniaeth i'm cynnal oedd y rhain, a heb amau bod yno ychwaneg yn y lle, euthum dros y darn hwnnw o'r ynys lle y buaswn o'r blaen, gan chwilio ymhob congl a than bob craig am ychwaneg ohono; ond ni fedrwn gael dim. O'r diwedd trawodd i'm meddwl fy mod wedi ysgwyd cwdyn bwyd ieir yn y fan honno, a dechreuodd y syndod ddarfod, a rhaid i mi gyfaddef i'm diolchgarwch duwiol i Ragluniaeth Duw ddechrau lleihau hefyd, wedi darganfod nad oedd hyn yn ddim byd ond peth cyffredin.
Cesglais y tywysennau hyn yn eu hadeg, sef tua diwedd Mehefin; a chan gadw pob yden, penderfynais eu hau i gyd drachefn, gan obeithio amser gael digon i'm cyflenwi â bara. Ond ni fedrais ganiatáu i mi fy hun y gronyn