lleiaf o'r ŷd hwn i'w fwyta tan y bedwaredd flwyddyn, a dim ond yn gynnil iawn hyd yn oed yr adeg honno, canys collais y cwbl a heuais y tymor cyntaf trwy beidio â sylwi ar yr adeg briodol, gan i mi ei hau ychydig cyn y tymor sych, fel na ddaeth allan o gwbl, o leiaf ddim fel y buasai'n dod.
Heblaw'r haidd hwn, yr oedd yno hefyd ugain neu ddeg ar hugain o goesau reis a gedwais gyda'r un gofal, a'r un diben neu'r un pwrpas oedd iddynt hwythau, sef, gwneud bara i mi, neu yn hytrach fwyd; gan i mi ddarganfod ffordd i'w goginio heb ei grasu, er i mi wneud hynny hefyd ymhen amser, ond rhaid dychwelyd at fy nyddlyfr.
Gweithiais yn galed anghyffredin am y tri neu'r pedwar mis hyn i orffen fy nghlawdd; ac ar y pedwerydd ar ddeg o Ebrill caeais ef fyny, gan ddyfeisio ffordd i mewn, nid trwy ddrws, ond dros y clawdd gydag ysgol, fel na byddai yno yr un arwydd y tu allan i'm trigfa.
Ebrill 16.—Gorffennais yr ysgol; felly euthum fyny gyda'r ysgol i'r top, ac yna tynnais hi i fyny ar fy ôl, a gollyngais hi i lawr o'r tu mewn. Yr oedd hwn yn lle caeëdig hollol gennyf, canys yr oedd gennyf ddigon o le o'r tu mewn, ac ni allai dim ddod ataf o'r tu allan, oni byddai iddo yng nghyntaf ddringo'r wal.
Y diwrnod cyntaf un wedi gorffen y mur hwn, dymchwelwyd fy llafur bron i gyd ar unwaith, a minnau bron wedi fy lladd. Dyma fel y bu: a minnau'n brysur y tu mewn, o'r tu cefn i'm