pabell, bron yng ngenau'r ogof, dychrynwyd fi'n ofnadwy gan ysgytiad daeargryn. Yn ddisymwth hollol, gwelwn y ddaear yn disgyn i lawr o ben yr ogof ac oddiar ymyl yr allt uwch fy mhen, a dau o'r pyst yr oeddwn wedi eu gosod yn yr ogof yn cracio yn y modd mwyaf ofnadwy. A Rhag ofn i mi gael fy nghladdu yno, rhedais ymlaen at fy ysgol, a thros y wal â mi, Rhag ofn i ddarnau o'r allt rowlio i lawr ar fy nghefn.
Fe'm brawychwyd gymaint gan y peth ei hun (gan nad oeddwn wedi clywed y fath beth erioed, nac wedi siarad â neb oedd wedi clywed) nes yr oeddwn fel un marw neu un wedi ei syfrdanu, a gwnaeth ysgogiad y ddaear fy stumog yn sal, fel un â chlwy'r môr arno; ond deffrôdd sŵn y graig yn syrthio fi, gan fy llenwi â braw, ac ni feddyliwn am ddim ar y pryd ond am yr allt yn disgyn ar fy mhabell a'm holl gelfi, a chladdu'r cwbl ar unwaith, a pharodd hyn i'm holl enaid ymollwng am yr ail dro.
Wedi i'r trydydd ysgytiad fynd heibio, ac ni chlywais ddim rhagor am beth amser,—dech reuais ymwroli; eto nid oedd digon o galon gennyf i fynd dros fy nghlawdd drachefn, Rhag ofn i mi gael fy nghladdu'n fyw; ond eisteddais yn llonydd ar y ddaear, yn ddigalon a phruddaidd iawn, heb wybod beth i'w wneud.
Tra'r oeddwn yn eistedd fel hyn, gwelwn yr awyr yn tywyllu ac yn cymylu fel petai am fwrw glaw. Yn fuan wedyn cododd y gwynt bob ychydig, fel ymhen llai na hanner awr yr oedd yn chwythu tymestl ddychrynllyd. Daliodd fel hyn am tua theirawr, ac yna dechreuodd ostegu;