Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Anturiaethau Robinson Crusoe.djvu/99

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD IX.
ROBINSON YN CAEL YCHWANEG O DACLAU O'R HEN LONG—AFIECHYD A THRALLOD.

MAI 1.—Yn y bore, wrth edrych i gyfeiriad y môr, a'r llanw'n isel, gwelwn rywbeth mwy na'r cyffredin yn gorwedd ar y traeth, ac edrychai fel casgen. Pan ddeuthum ato, cefais faril fechan a dau neu dri dernyn o'r llong, wedi eu gyrru i'r lan gan y dymestĺ; ac wrth edrych i gyfeiriad y darn llong, tybiwn ei bod yn gorwedd yn uwch o'r dŵr nag yr arferai Archwiliais y faril, a gwelais yn fuan mai barilaid o bowdwr—gwn ydoedd, ond yr oedd wedi gwlychu, ac yr oedd y powdwr wedi caledu fel carreg; sut bynnag, rowliais hi ymhellach i'r lan, ac euthum ymlaen ar hyd y tywod cyn nesed ag y medrwn i'r darn llong i edrych am ychwaneg.

Pan ddeuthum i lawr at y llong, gwelais ei bod wedi ei symud yn rhyfedd. Yr oedd y fforcasl, a gladdesid mewn tywod o'r blaen, wedi ei godi i fyny o leiaf chwe throedfedd, a'r starn wedi ei dorri'n ddarnau ac wedi ei ysgaru oddi wrth y gweddill gan rym y môr, ac wedi ei fwrw ar y naill ochr, a'r tywod wedi cael ei luchio mor uchel ar yr ochr nesaf i'r starn, fel y gallwn gerdded ati'n awr pan oedd y llanw allan.

Parodd hyn i mi newid fy syniadau yn llwyr ynglŷn â'r cynllun o symud fy nhrigfan; a bûm