Tudalen:Ar y Groesffordd.pdf/10

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ac ambell i jwg o laeth enwyn a chwlff o fara chaws wrth y ffermydd na, yn lle bod fel fi a dy ben wrth y post drwy gydol y dydd ynghanol shafings a blawd lli. Eiste'n rhywle, ond nid ar y gadair goes glec na. Ifan Wyn gaiff roi i glun i lawr ar honna.

ELIS: Druan o'r hen grydd, wn i ddim sut mae o'n cadw'n ffrindiau a thi ar ol dy holl gastiau.

JARED: Hen bartnars, Dafydd, hen bartnars: Ifan a finnau ddeng mlynedd ar hugain yn ol oedd y ddau lanc smartia'n y dyffryn.

ELIS: Be nath i ti bara'n hen lanc ac yntau'i briodi, Jared?

JARED: Dyna oedd yn y rhan i hwyrach. (Daw Morgan Hopcyn y siopwr i mewnyn ei ffedog wen.) Pa siap sydd ar y siopwr heno?

HOPCYN: Cyn i mi anghofio Jared, mae un o'r shetars ar y ffenest acw wedi chwyddo neu rywbeth, nei di redeg dy blaen drosti os do i a hi yma fory?

JARED: Be sydd ar y tacla heddiw? Rwan jest roedd Dafydd am i mi roi coes ei gadair yn ei lle rwan dyma titha'n gofyn i mi ostwng y chwydd yn dy shetar. Mae'r gweithdy ma'n mynd yn rêl surjary doctor. (Cenfydd Hopcyn yn cyrchu at y gadair.) Hopcyn! Biwêr! Cadw draw oddiwrth y gadair na. Ifan Wyn sy'n mynd i gael ei gaedirio yn y steddfod hon (chwardd y lleill). Howld! dyma sŵn i droed o! Mor sobr a judge bob copa