ohonoch chi rwan. (Daw Ifan i mewn yn ei ffedog byg-ddu ac yn llewys ei grys.) Da machgen i am gadw dy gyhoeddiad.
IFAN (dan fopio'i dalcen): Brensiach fawr! yn nath hi ddiwrnod chwilboeth heddiw, fechgyn? Roedd hi'n siwr o fod yn crasu ar y brynia na heddiw, Dafydd?
ELIS: Oedd nen tad, on beth am danat ti ar dy sêt grydd?
IFAN: Gwarchod pawb! chês i rioed gletach diwrnod yn fy mywyd yn y gweithdy acw: mi faswn yn tynnu nghroen ac eiste'n f'esgryn, pe gallswn i.
JARED: Go lew di, Ifan! Mi feddyliaist am y deunydd teneuaf yn bosibl ar wrês, achos ti ydi'r creadur mwya croen-deneu'n y wlad. Tyrd, rhen bellen gwyrcrydd, rwyf wedi cadw'r gadair acw i ti yn arbennig. Aros, mae drychfeddwl wedi nharo, ti yw'r bardd cadeiriol, Ifan, a finna ydi'r archdderwydd yn d'arwain dros y llwyfan. (Ymeifl yn ei fraich a rhydd ef i sefyll â'i gefn ar y gadair.) A oes heddwch? (Etyb y lleill "heddwch.") Steddwch, Mr. Wyn yng nghadair beirdd Ynys Prydain. (Eistedda Ifan a syrth i'r llawr ynghanol chwerthin.)
IFAN (yn ddigofus): Twt lol! rwyt ti mor ddwl a llo blwydd, Jared. Rhyw jocio'n dragwyddol rwyt ti. Wn i ar arffed daear sut erioed y cest ti