Tudalen:Ar y Groesffordd.pdf/13

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

IFAN: Pwya fo, Jared. O! un garw wyt ti, Hopcyn; rwyt ti'n ddigon di-gydwybod i werthu petha sy'n groes i d'argyhoeddiad.

HOPCYN: Aros di, Ifan Wyn; ti ydi Radical mawr y plwy ma, yntê?

IFAN: Gyr ymlaen.

HOPCYN: Ti sy'n gneud sgidia i'r gŵr o'r Plas, y Tori mwya yn y sir, ac yn y sgidia rheiny mae o'n brasgamu ar adeg lecsiwn i ddeyd a gneud yn groes hollol i'r hyn gredir gen ti.

JARED: Howld! nid run peth ydi hynny a dy waith di'n gwerthu baco nad wyt ti'n credu dim ynddo.

HOPCYN: Run peth yn hollol ydi'r ddau. Ac mae gen i damaid bach i titha i'w gnoi, Jared. Rwyt ti'n brysur ddoe a heddiw'n gneud drws stabal i ŵr y Plas, yn dwyt ti?

JARED: Dos ymlaen; mi wela dy fod wedi codi stêm.

HOPCYN: Dyma titha'n rhoi dy hun yn Radical mawr fel Ifan, ac eto rwyt ti'n ddigon anghyson i neud drws stabal i geffyla sy'n rambandio o gwmpas yr ardal ar etholiad i gario dynion i fotio'n erbyn yr egwyddorion rwyt ti byth a hefyd yn eu brolio.

ELIS: Yn ol dy syniad di felly, rhagrithiwrs a Phariseaid ydi pob enaid ohonom?

HOPCYN: Ddwedais i mo hynny Dafydd; dal rydw i mod i mor gyson a neb ohonoch. Y ffaith