Tudalen:Ar y Groesffordd.pdf/14

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ydi hyn, os chwiliwch i mewn yn fanwl i betha, mae pawb, fwy neu lai, yn gorfod bod yn anghyson. Cymer dy hunan fel engraifft Dafydd: rwyt ti'n cario bwndeli o bapurau Toriaidd i ŵr y Plas sy'n lledaenu Torïaeth er dy fod dithau'n galw dy hun yn Rhyddfrydwr mawr, a chi'ch tri sy'n fy nghael i'n brin o gysondeb. Sgubwch yn lan o flaen carreg eich drws eich hun cyn deyd fod llwch ar f'un i.

JARED: Hanner munud! rwyt ti'n union fel rhen longwr na fydd yn dod i ffair Caerdref i gael i rwymo â rhaff, mae'n llithro o bob cwlwm, ond mi ro i gwlwm dolen ar dy sodla na fedri di syflyd gam ohono. Rwyt ti'n deyd bob amser fod smocio'n arferiad drwg, yn dwyt ti?

HOPCYN: Ydw.

JARED: Ac eto i gyd rwyt ti'n gwerthu'r stwff i'w smocio?

HOPCYN: Dos ymlaen a'th ymresymiad.

JARED: Os ydi smocio'n ddrwg, mae'n rhaid fod baco'n ddrwg, achos does dim use i faco o gwbl ond i'w smocio. O'r goreu; mae baco felly'n ddrwg ynddo'i hunan, ond am y sgidia mae Ifan yn i neud i Mr. Blackwell y Plas mae rheiny'n bethau anghenrheidiol achos mae'n rhaid i Dori gael sgidia.

HOPCYN: Ond pa gysondeb sydd i Radical penboeth fel Ifan neud pâr o sgidia i Dori mawr fel Mr. Blackwell?