Tudalen:Ar y Groesffordd.pdf/18

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

blaen fel blaenoriaid Seilo, a dyma fo: rwyf wedi gosod fy mryd ar alw yn nhŷ y bobl hynny yn yr ardal yma nad ynt yn mynd i unrhyw le o addoliad. Mi leiciwn ar gychwyn fy ngweinidogaeth roi gwâdd iddyn nhw i'r capel: mae hynny'r peth lleia fedra i neud. Mae gobaith i ddyn go ddrwg ond ei gael i sŵn pethau da. Be ydi'ch barn chi? (Pawb yn fud.) Go ddistaw yda chi; rwyn ofni nad ydach chi ddim yn ffafriol i'r cynllun.

JARED: Mr. Harris, mi fedrwn ddadlu pyncia trymion yng Nghymru am oriau bob dydd, ond go ddi-gynnig yda ni ar dipyn o waith ymarferol. Tyrd, Ifan Wyn, dywed rywbeth, seinia gân yn lle bod yn fudan.

IFAN (gan chware â' i getyn): Peth newydd spon yn y lle yma ydi galw ymhob tŷ, Mr. Harris; nath neb erioed mohono i mi gofio.

MR. HARRIS: Tybed nad yw'n llawn bryd i neud hynny, Ifan Wyn?

IFAN: Wel, fy marn onest i ydi, mi rydw i'n leicio gadael i ddynion fod at eu dewisiad heb ddim gorfodaeth yn y busnes o gwbl.

HOPCYN: Dyna marn inna hefyd, Mr. Harris.

MR. HARRIS: Does dim gorfodaeth ar neb wrth gwrs, ond tybed na ddylwn i roi gwâdd caredig i bobl nad ydynt byth yn mynd i gapel nac eglwys—dangos fod gennym ddiddordeb ynddyn nhw beth bynnag. Cofiwch, dydw i ddim yn disgwyl i neb