Tudalen:Ar y Groesffordd.pdf/19

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ohonoch chi fel swyddogion ddod hefo fi rownd y tai ma.

HOPCYN: Mae'n dda gen i glywed hynny, achos mae ar lawer ohonyn nhw gwrs byd o arian i mi yn y siop am goods.

IFAN: Mae na lu ohonyn nhw hefyd yn cerdded mewn sgidia na thalson nhw ddim dima goch y delyn i mi am danynt—y gweilch drwg.

JARED: Cato pawb, Mr. Harris, mae ma dalwrs siamal o ddrwg yn y wlad. Da chi rhowch bregeth i ni rai o'r Suliau nesa ar y gair ddeydodd Eliseus wrth y wraig honno: " Dos gwerth dy olew a thâl dy ddyled." Mi wnae un bregeth felly'r byd o les.

MR. HARRIS: Mi gofia'r cyngor, Jared Jones. Ond unwaith eto mae fy holl fryd ar fynd i wâdd y bobl yma nad ynt yn mynd i unrhy w le o addoliad, ac rwyn siwr na sefwch chi ddim yn erbyn hynny. (Cyfyd pawb ac arwyddant yn eu ffordd eu hunain eu cyd-syniad.)

IFAN: Mae un tŷ er hynny y byddai'n ddoethach i chi fynd heibio iddo heb alw, Mr. Harris.

HOPCYN: Mi wn i pwy sydd gan Ifan mewn golwg—cyfeirio mae o, mi wn, at dŷ Dic Betsi'r Pantglâs. Richard Davies ydi enw'r dyn, ond fel Dic Betsi y bydd pawb yn i nabod o. Fo ydi pen portsiar yr ardal: mae o'n byw i lawr y cwm