Tudalen:Ar y Groesffordd.pdf/20

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mewn bwthyn bach, fo a'i ferch; cadwch draw o'r fan honno beth bynnag.

IFAN: Ie'n wir, achos hen scum o ddyn ydi o sy'n gas gan bawb; mae o'n portsio gêm a samons bob yn ail. Mi daliwyd o unwaith neu ddwy, ond y syndod ydi, chafodd o ddim jêl.

MR. HARRIS: Gŵr gweddw ydi o?

IFAN: Ie; mi ddaeth i'r ardal ma yn llanc o rywle na ŵyr neb o ble i wasanaethu efo Mr. Blackwell yn y Plas, ac mi briododd y ferch nobla'n y gymydogaeth, ac yn fuan iawn mi drôdd i feddwi a chafodd sac o'r plâs, ac o ddrwg i waeth yr aeth byth er hynny, ac mae'n dial ar Mr. Blackwell drwy botsio ar ei stâd gymaint all o drwy'r blynyddoedd.

MR. HARRIS: Ei ferch sy'n cadw tŷ iddo, medde chi.

HOPCYN: Ie; mi dorrodd ei mam ei chalon druan wrth weld Dic yn prowla'r coedydd a'r afonydd, a dyw'r ferch yma sy'n cadw'i dŷ yn fawr gwell na'i thad—rhyw hoeden wyllt, ofergoelus, anwybodus, na fu erioed mewn capel nag eglwys— mae hi fel pe'n perthyn i deulu sipsiwn. Mi fasa'n chwith gan ei mam, druan, feddwl y fath gomchwiglen o ferch adawodd hi ar ei hol.

MR. HARRIS: Wel, yn wir, tŷ go anobeithiol i alw ynddo yw hwnna, ac eto gresyn fasa i mi