beidio galw yno unwaith o leiaf. Pwy ŵyr na ddaw rhyw les o ymweld â nhw?
IFAN: Dyma ni wedi'ch rhybuddio, Mr. Harris. Wrth gwrs fe gewch neud fel y mynnoch, ond yn siwr i chi gwell i chi beidio galw yno.
MR. HARRIS (dan hwylio i fynd allan): Diolch am y rhybudd, ond y cwbl alla nhw neud ydi tafodi dipyn arna i. Mi ddo'i yma rai o'r dyddiau ma, Jared Jones i gadw'm llaw i mewn fel jeinar, mae'n rhy hwyr heno. Nos dawch bawb ohonoch.
PAWB: Nos dawch, Mr. Harris. (A Mr. Harris allan, ac mae ennyd o ddistawrwydd yn y gweithdy.)
JARED: Diaist i, mae na gêm yno fo, fechgyn! Ac mae'n dda gen i fod o am alw i weld Dic er mwyn rhoi siawns i'r hen walch. Hwyrach wedi'r cwbl fod gronyn o rhyw ddaioni yn Dic Betsi.
IFAN: Daioni wir! pa ddaioni, sgwn i?
JARED (dan briddhâu): Rhaid fod rhyw ddaioni yno fo ymhell yn ol neu fasa Martha'r Wern Lwyd ddim yn ei briodi: merch ragorol oedd Martha.
IFAN: Ah! rwy'n cofìo rwan, roeddet ti mewn cariad â Martha yn doeddet ti cyn i Dic ddod i'r ardal ma?
JARED (yn drist): Oeddwn, waeth cyfadde'n onest, ond Dic gariodd y dydd, ac yr oedd yntau'n gamp o ddyn bum mlynedd ar hugain yn ol. Ond