NEL: Na, nid petha felly'n hollol. Dyna fi rwan wrth dynnu'r gwn ma i lawr oddiar y pared, fe gredais mod i'n gweld rhyw oleu glas yn llithro ar hyd i faril.
DIC: Rwy'n dy ddeall i'r dim, mechan i; trio'm stopio i fynd allan at yr afon rwyt drwy godi ofn arna i.
NEL: Mi leiciwn fedru gneud hynny, ond cyn wired a mod i'n sefyll yn y fan yma mi welais fflach las yn llithro ar hyd y gwn yma o'r trigar at i ffroen o. Nhad bach! peidiwch mynd allan heno?
DIC (gan gydio yn itn pen i'r gwn a Nel yn dal gafael yn y pen arall): Rwyt ti yn un o dy strancia'n siwr ddigon heno. Cofia be ddeydais i am groesi f'wyllys. Gillwng d'afael!
NEL: Gwrandewch arnaf am unwaith, nhad. Peidiwch a mynd allan heno er fy mwyn i.
DIC (gan ei gwatwar): Peidiwch a mynd allan heno er fy mwyn i. Ydi bys Nel bach yn brifo? Gaiff dadi bach neis roi tws iddo? Dos o ngolwg i; rwyt bron wedi ngneud i'n sâl rhwng pobpeth. Be sy'n dy gorddi di heno, sgwn i? Rwyt fel ceiliog y gwynt—yn fy nyffeio rwan jest, y funud nesa yn gweld cannwyll corff yn rhedeg ar hyd baril y gwn yma, a dyma ti rwan yn mewian fel cath fanyw, (gan watwar) peidiwch mynd allan heno, nhad. Wyt ti'n clywed? Gillwng d'afael! (Tyn y gwn