o'i llaw, ac wrth ei dynnu tery'n erbyn llun ei wraig y tu ol, a syrth hwnnw i lawr oddiar y pared.)
NEL (â'i dwylo i fyny): O nhad! dyna chi wedi taro mam i lawr, mae'i llun hi wedi disgyn. (Rhed at y llun a chyfyd ef gan graffu arno.) O mam! mi gês golled i'ch colli chi (cusanna'r llun.) Yn doedd gwyneb ffein ganddi, nhad?
DIC (edrych yn sarrug ar y llun): Oedd. (Yn symud i'r chwith.)
NEL: Rhyw bymtheg ar hugain oedd hi'n marw yntê, a finnau'n ddeg oed? Oedd hi'n debig i mi o ran pryd a gwedd?
DIC: Oedd am wn i, ond heriodd hi rioed mohono i fel ti, a doedd hi ddim yn gweld arwyddion fel ti; wn i ddim i bwy rwyt ti'n debig.
NEL (yn fyfyriol uwchben y llun): Sgwn i ymhle mae hi heno?
DIC: Mi wyddost yn gystal a finna i bod hi'n gorwedd ym mynwent y Llan.
NEL: Ydi hi i gyd yno, tybed?
DIC (yn ddyryslyd): Ydi hi i gyd yno! Be wyt ti'n feddwl?
NEL: Ydi hynny oedd o mam ym mhridd y fynwent ne ydi hi yma yn y gegin ambell dro?
DIC (mewn penpleth mawr): I hyspryd hi wyt ti'n feddwl? Welaist ti hyspryd hi rhywdro?
NEL: Na, nid hynny, ond mi wn o'r gore i bod